Gweithio
Strategaeth Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro 2026-2030
Croeso
Mae’r wefan hon yn gydweithrediad rhwng awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phartneriaid y trydydd sector. Fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn 2023 ac fe’i diweddarwyd yng Ngwanwyn 2026.
Mae’r strategaeth yn nodi sut rydyn ni’n bwriadu darparu gwasanaethau Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar sydd wedi’u hintegreiddio’n well, yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon i filoedd o deuluoedd yng Ngorllewin Cymru
Mae wedi’i chynllunio i fod yn:
- ymatebol i anghenion gwirioneddol teuluoedd a gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth
- gweithredadwy a mesuradwy
- hawdd ei darllen
Yn y tudalennau hyn rydyn ni’n disgrifio sut mae ein gwasanaethau wedi’u trefnu, ein strategaeth i’w gwella, y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud hyd yn hyn, yr hyn y mae rhieni a gweithwyr proffesiynol yn ei ddweud wrthyn ni, a’r canlyniadau a’r dangosyddion rydyn ni’n eu hôlrhain.