Cyd-destun
Yr hyn rydym wedi’i ddysgu

Rhieni a theuluoedd

Ymgynghorodd ein timau â rhieni yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, gan gynnwys teuluoedd plant sydd ag anableddau a namau. Mae’r hyn y maen nhw wedi’i ddweud wrthym yn adleisio’r hyn a glywn yn aml yn Sir Benfro ond mae angen i ni ailadrodd y dasg wrando hon ar draws ein rhanbarth.

"Pam na allan nhw i gyd eistedd i lawr mewn ystafell gyda'i gilydd a thrafod cynnydd fy mhlentyn a'r nodau ar ei gyfer, fel bod y staff i gyd yn gwybod ar beth maen nhw'n gweithio gydag e?"

– Mam yn sir Gaerfyrddin

Mae rhieni a theuluoedd am gael y canlynol:

  • gwasanaethau sy’n fwy ymatebol ac yn fwy personol
  • meithrin perthynas â gweithwyr proffesiynol unigol
  • cael sicrwydd y bydd eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif
  • symud rhwng gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau heb orfod ailadrodd eu hanes bob tro
  • osgoi cael eu hanfon at y gwasanaeth anghywir, neu at wasanaethau nad ydynt yn bodoli mwyach
  • gwasanaethau hygyrch sy’n agos atynt, ac ar adegau cyfleus
  • gwybod yn hawdd pa wasanaethau sydd ar gael iddynt
  • cyrsiau, neu ffyrdd eraill o ddysgu am ddatblygiad eu plentyn ar wahanol oedrannau.

Mae rhieni a theuluoedd angen i weithwyr proffesiynol wneud y canlynol:

  • cyfathrebu â’i gilydd, fel nad rhieni yw’r rhai sy’n cyfieithu rhwng gwasanaethau
  • cael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa gymorth sydd ar gael ac sy’n briodol ar gyfer eu hachos
  • ymateb i’w problemau a’u pryderon – mae gweithwyr proffesiynol sy’n rhagdybio pa anawsterau sy’n wynebu teulu yn debygol o golli gwybodaeth a chyfleoedd pwysig i wneud gwahaniaeth i fywydau plant sydd yn eu gofal
  • cael eu galluogi i drosglwyddo gwybodaeth bwysig yn hawdd (ond yn ddiogel) rhwng gwasanaethau, fel bod y wybodaeth ddiweddaraf gan bawb am bob plentyn

Gweithwyr proffesiynol y sector

Cynhaliwyd cyfres o weithdai gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes darparu gwasanaethau ym mhob un o’n tri awdurdod lleol a Hywel Dda. Rydym wedi siarad â mwy na 50 o aelodau staff unigol, yn cwmpasu rolau rheoli a rheng flaen ym maes iechyd, addysg a gofal cymdeithasol.

"Mae angen i ni ddatblygu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pontio, a chynnwys teuluoedd yn y broses"

– Gweithiwr Proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar

Mae gweithwyr proffesiynol yn dweud wrthym:

  • Maent yn teimlo dan bwysau, ac mae morâl yn isel
  • Mae rhai arferion rhagorol gwaith i’w cael, ond nid yw pawb yn gallu cael mynediad atynt
  • Mae gwasanaethau yn amrywio yn ddaearyddol
  • Mae cyllid tymor byr, wedi’i neilltuo, yn rhwystro darparu’r gwasanaethau gorau
  • Dylai fod yn haws i deuluoedd roi adborth am ansawdd gwasanaethau, a gwneud awgrymiadau ar gyfer eu gwella
  • Mae rhai teuluoedd nad ydym yn eu cyrraedd
  • Nid ydym yn ymgysylltu digon â theuluoedd cyn geni
  • Mae angen i weithwyr proffesiynol helpu ei gilydd ar draws ffiniau gwasanaethau; ni ddylem fod yn gweithio o fewn ein gwasanaeth ein hunain yn unig
  • Cedwir gwybodaeth am deuluoedd ar draws systemau gwahanol ac mae’n anodd iawn ei rhannu mewn ffordd sy’n ddefnyddiol i weithwyr proffesiynol
  • Nid yw’n ddigon hawdd darganfod pa wasanaethau sydd ar gael ar gyfer pa deuluoedd a pha anghenion
  • Rydym am i’n gwasanaethau ymateb i anghenion a phrofiadau teuluoedd
  • Rydym am fuddsoddi mewn gweithwyr proffesiynol y tu allan i’r sector cyhoeddus

Mae gweithwyr proffesiynol yn arbennig o bryderus am deuluoedd lle mae:

  • Anawsterau teuluol yn dod i’r amlwg yn ystod beichiogrwydd
  • Iechyd meddwl gwael gan rieni
  • Pobl yn byw gyda gwrthdaro a thrais
  • Anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu gan blant
  • Anghenion dysgu ychwanegol gan blant
  • Angen cymorth ar blant wrth iddynt symud o feithrinfeydd a gofal plant i’r ysgol

Hoffai gweithwyr proffesiynol weld y canlynol yn y dyfodol:

  • Ymweliadau cartref wedi’u targedu yn ffordd effeithiol o gefnogi teuluoedd
  • Un set o brosesau cyffredin y mae pob gweithiwr proffesiynol yn y rhanbarth yn ei defnyddio: gan gynnwys proses atgyfeirio gyffredin, offer a throthwyon asesu cyffredin, ac iaith gytûn a ddefnyddir i ddisgrifio anghenion
  • Gwasanaethau sy’n gydgysylltiedig, fel nad yw teuluoedd yn profi ffiniau a rhwystrau rhwng gwasanaethau
  • Teuluoedd yn gallu dod o hyd i’r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt a chael mynediad iddynt
  • Partneriaid yn cydnabod y gall fod cymunedau gwahanol ac aelodau gwahanol o’r teulu anghenion gwahanol
  • Mae partneriaid yn atebol ar y cyd – lle mae grŵp partneriaeth yn cymryd y prif gyfrifoldeb am gyflawni nodau mamolaeth a’r Blynyddoedd Cynnar
  • Caiff canlyniadau eu monitro ar lefel unigol ac ar lefel poblogaeth
  • Mae hyfforddiant yn agored i bob gweithiwr proffesiynol