Beth mae’r strategaeth yn ei olygu ar gyfer
gweithwyr proffesiynol rheng flaen

Mae’n bosibl y bydd rhaid i bobl sy’n gweithio ym maes gofal mamolaeth a’r blynyddoedd cynnar weithio mewn ffyrdd gwahanol er mwyn helpu i roi’r strategaeth hon ar waith.

Dylai gwybodaeth lifo rhwng gwasanaethau yn haws

  • Mae angen i weithwyr proffesiynol gael mynediad at wasanaethau gwybodaeth a rennir, ac mae hyn yn golygu y bydd systemau a phrosesau’n dechrau newid
  • Gofynnir i weithwyr proffesiynol gymryd rhan yn y broses o wella seilwaith – sy’n golygu bod yn agored i dechnolegau newydd, ac yn barod i roi adborth adeiladol
  • Byddwn yn datblygu system atgyfeirio newydd, draws-ranbarthol a thraws-wasanaeth i bob gweithiwr proffesiynol ei defnyddio
  • Gofynnir i weithwyr proffesiynol flaenoriaethu’r dasg o gadw data lefel plant wedi’u diweddaru ac yn gywir

Dylai gwasanaethau ganolbwyntio ar y defnyddiwr

  • Bydd mwy o gyfleoedd i weithwyr proffesiynol gyfrannu at benderfyniadau strategol a chynllunio gwasanaethau
  • Mae cael gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn golygu gwrando ar deuluoedd a bod yn barod i newid
  • Bydd hwn yn gyfle da i wneud newidiadau i’r ffordd y caiff gwaith ei gynllunio

Byddwn yn dod â gwasanaethau yn agosach at ei gilydd

  • Bydd disgwyl i weithwyr proffesiynol fabwysiadu ffyrdd cyffredin o weithio ar draws gwasanaethau
  • Bydd gofyn i fwy o’n gweithwyr proffesiynol weithio mewn timau amlasiantaethol – i rai, gallai hyn olygu treulio amser mewn lleoliad a rennir; ond gan amlaf bydd yn golygu cyfathrebu gwell ac amlach rhwng timau
  • Bydd gweithwyr proffesiynol yn cael mwy o gyfleoedd i gwrdd a gweithio gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau eraill

Rydym yn gofyn i’r partneriaid strategol rhanbarthol werthfawrogi a buddsoddi yng ngweithlu’r Blynyddoedd Cynnar

  • Bydd cyfleoedd hyfforddi a datblygu newydd, er enghraifft mewn dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • Rydym am i dimau rannu enghreifftiau o arferion da, a byddwn yn creu mwy o gyfleoedd iddynt arddangos gwaith y maent yn falch ohono
  • Bydd mwy o recriwtio i rolau’r Blynyddoedd Cynnar er mwyn lleihau cyfraddau swyddi gwag mewn gwasanaethau allweddol. Gwyddom fod prinder cenedlaethol mewn rhai proffesiynau, ac mae angen i ni weithredu i ddiogelu llesiant staff

Dylai gwybodaeth am wasanaethau fod yn well

  • Byddwn yn parhau i wella’r wybodaeth a ddarperir ar-lein am wasanaethau yn ein rhanbarth i wneud yn siŵr ei bod yn glir, yn gywir ac yn hawdd i’w defnyddio
  • Bydd disgwyl i weithwyr proffesiynol gael mynediad at wybodaeth ar-lein am wasanaethau sydd ar gael i deuluoedd yn yr ardaloedd lle maent yn gweithio, a’u hyrwyddo
  • Mae cyflawni’r addewid hwn yn golygu gwneud yn siŵr bod y wybodaeth a gedwir ar-lein am wasanaethau wedi’i diweddaru ac yn gywir, a rhaid i reolwyr gwasanaethau gymryd cyfrifoldeb am hyn
  • Bydd pob gwasanaeth yn nodi rhywun a fydd yn arwain ar gynllun cyfathrebu a rennir ac yn cyfrannu at ymdrechion cyfathrebu traws-asiantaeth

Darllen mwy: Beth mae’n ei olygu ar gyfer…