Beth mae’r strategaeth yn ei olygu ar gyfer
rheolwyr gwasanaeth ac uwch reolwyr

Bydd angen cymorth a chefnogaeth ar gyfer y strategaeth hon gan uwch swyddogion ym mhob un o’r tri chyngor sy’n cymryd rhan, y bwrdd iechyd, a phartneriaid yn y sector gwirfoddol; dyma beth fydd yn ei olygu iddyn nhw.

Dylai gwybodaeth lifo’n haws rhwng gwasanaethau

  • Mae angen i ni allu cael mynediad at wasanaethau gwybodaeth a rennir; mae hynny’n golygu y bydd angen i’r systemau a’r prosesau newid
  • Bydd angen i reolwyr fod yn barod i weithio gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau eraill i adeiladu’r achos dros fuddsoddi mewn seilwaith meddalwedd a rennir
  • Bydd angen i staff fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, a bydd angen cymorth a hyfforddiant arnynt i hwyluso hyn
  • Bydd angen cytuno ar safonau a phrosesau traws-asiantaeth ar gyfer casglu, storio a chael mynediad at ddata, a’u rhoi ar waith
  • Bydd angen systemau atgyfeirio newydd, a rennir, y gall pob gwasanaeth eu mabwysiadu

Ar draws ein rhanbarth rydym am i’n gwasanaethau ganolbwyntio ar y defnyddiwr

  • Bydd angen buddsoddi mewn ymchwil defnyddwyr trwy hyfforddi staff mewn dulliau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a thrwy gomisiynu ymchwil mewn meysydd allweddol
  • Bydd lleisiau teuluoedd wrth wraidd ein gwasanaethau, a bydd rheolwyr yn hyrwyddo newidiadau i wasanaethau mewn ymateb i’w hanghenion
  • Mae angen i wasanaethau weithio ar gyfer ein gweithlu hefyd; mae angen llais ar weithwyr proffesiynol hefyd wrth newid gwasanaethau
  • Ar draws y rhanbarth mae angen i ni leihau biwrocratiaeth
  • Dylid rhoi argymhellion o’r cynlluniau peilot braenaru ar waith
  • Mae angen i ni gydnabod a hyrwyddo gweithgareddau cymunedol a gwasanaethau a arweinir gan y gymuned

Dod â’n gwasanaethau yn agosach at ei gilydd

  • Mae angen i weithwyr proffesiynol weithio gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau eraill i ddatblygu gwasanaethau seiliedig ar le sy’n cynnal timau amlasiantaethol wedi’u cydleoli
  • Bydd angen iddynt greu dulliau traws-wasanaeth o gynllunio gwasanaethau
  • Bydd angen iddynt greu cyfleoedd i staff o wasanaethau gwahanol i gydweithio a ffurfio timau traws-wasanaeth, gan gynnwys dod â thimau aml-asiantaeth ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol at ei gilydd
  • Mae angen i gyfleoedd hyfforddi fod yn agored ar draws grwpiau proffesiynol

Dylai pob partner werthfawrogi a buddsoddi yng ngweithlu’r Blynyddoedd Cynnar

  • Dylem gynyddu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer holl weithwyr proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys nodi dilyniant gyrfa rhwng gwasanaethau a hyrwyddo cymhwyster cludadwy i lenwi bylchau mewn rhai meysydd gwasanaeth
  • Dylai staff ym mhob gwasanaeth gael eu rheoli’n dda a chael mynediad at gyfleoedd datblygu a hyfforddi

Dylai gwybodaeth am wasanaethau fod yn well

  • Dylem greu fforwm traws-wasanaeth ar gyfer cyfathrebu ac ymrwymo i ddatblygu cyfathrebiadau sy’n cael eu rhannu am wasanaethau
  • Dylai rheolwyr ofyn a disgwyl i staff wybod am y gwasanaethau a ddarperir gan asiantaethau eraill i rieni, a’u hyrwyddo
  • Dylai pob gwasanaeth benodi rhywun sy’n gyfrifol am gysylltu â gwasanaethau gwybodaeth ar-lein a rennir