ein
Gwasanaethau rhagorol ar bob cam
Yn seiliedig ar sefyllfa bresennol ein gwasanaeth a‘r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu gan deuluoedd a gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar, nod ein strategaeth ar gyfer 2026-2030 yw cyflawni’r canlynol:
Ymgysylltu cadarnhaol/ymyrraeth gynnar gyda theuluoedd yn ystod beichiogrwydd a chamau cynnar rhianta
Sicrhau bod gwasanaethau arbenigol yn darparu cymorth i baratoi teuluoedd ar gyfer bod yn rhieni ac yn cynnig cymorth cyn gynted â phosibl.
Ymgysylltu cadarnhaol â theuluoedd yn ystod y Blynyddoedd Cynnar
Sicrhau bod ein hanghenion teulu wrth wraidd gwasanaethau ar y cyd, fel bod teuluoedd yn cael mynediad i’r cymorth cywir ar yr adeg iawn.
Pontio cadarnhaol o ofal plant i addysg y Blynyddoedd Cynnar
Sicrhau proses bontio hwylus i bob plentyn a rhiant o leoliadau cyn-ysgol i addysg y blynyddoedd cynnar.
Sut byddwn yn cyflawni hyn?
Mae’r strategaeth yn cynnwys pum thema:
1. Integreiddio ein gwasanaethau
Mae angen i ni wneud hyn am y rhesymau canlynol:
- Mae gweithio seilo yn creu rhwystrau rhwng gwasanaethau, a bylchau y gall teuluoedd lithro rhyngddyn nhw
- Rydyn ni’n gwybod bod teuluoedd yn cael gwell gofal pan fydd gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd
- Mae adnoddau dan bwysau; trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn osgoi dyblygu, lleihau gwastraff ac adeiladu ar waith ein gilydd
Mae angen i ni gael y canlynol:
- Penderfyniadau a rennir ar sail gwybodaeth a rennir
- Systemau ar gyfer cydweithio rhwng awdurdodau lleol, iechyd a’r trydydd sector
- Dull seiliedig ar le o ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys timau’r Blynyddoedd Cynnar wedi’u lleoli ar y cyd lle bo’n briodol
- Perthnasoedd mwy cadarnhaol rhwng grwpiau proffesiynol
- Gweithlu wedi’i ysgogi a’i rymuso i weithio ar draws ffiniau gwasanaethau
- Gweithlu sy’n teimlo fel un tîm, gan dynnu at ei gilydd ar gyfer yr un nodau
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Sefydlu mwy o dimau cyd-leoli ar draws y rhanbarth
- Bwrw golwg ar opsiynau ar gyfer cyd-gomisiynu
- Dysgu o werthusiadau gwasanaeth
- Helpu gweithwyr proffesiynol i gasglu adborth gan deuluoedd, fel y gellir ei ddefnyddio mewn gweithgareddau cynllunio a chyd-ddylunio gwasanaeth yn y dyfodol
- Datblygu cynnig hyfforddiant sylfaenol cyffredin ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar
2. Cynllunio gwasanaeth yn seiliedig ar bobl
Mae angen i ni wneud hyn am y rhesymau canlynol:
- Rydym am gynnig gwasanaethau hygyrch y mae teuluoedd am eu defnyddio
- Rydyn ni eisiau cynnig gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â’r ystod amrywiol o anghenion yn ein cymunedau, gan gynnwys y rhai nad yw eu lleisiau yn cael eu clywed yn aml
- Nid ydym yn gwybod digon am anghenion ein holl ddefnyddwyr gwasanaeth ac nid ydym yn cydnabod pa mor wahanol yw’r anghenion hyn, na sut y maent yn newid dros amser
- Gall teuluoedd deimlo nad ydyn nhw’n cael cefnogaeth pan nad yw gwasanaethau yn adeiladu ar sail eu cryfderau yn ogystal â’u hanghenion
Mae angen i ni:
- Casglu adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth fel y gallwn weld ein gwasanaethau a’n gweithlu trwy lygaid y teuluoedd sy’n dibynnu arnyn nhw
- Datblygu sgiliau gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar, fel eu bod wedi’u paratoi’n well i gydnabod cryfderau teuluol a gwrando ar anghenion teuluol
- Gwasanaethau a arweinir ac a gomisiynir gan y gymuned
- Nodi a chael gwared ar rwystrau i fynediad i wasanaethau, e.e. drwy sicrhau bod gwasanaethau’n gweithio’n well ar draws ffiniau awdurdodau lleol
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Ymgysylltu’n rheolaidd â defnyddwyr gwasanaeth
- Blaenoriaethu hyfforddiant a datblygu cyd-ddylunio, i helpu gweithwyr proffesiynol i gynrychioli lleisiau teuluoedd
- Cynyddu cydweithredu rhanbarthol ac integreiddio gwasanaeth
- Hyrwyddo buddsoddiad mewn gwasanaethau a arweinir gan y gymuned
3. Datblygu seilwaith a systemau technoleg i alluogi cydweithio
Mae angen hyn arnom oherwydd:
- Nid oes gan weithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth fynediad at wybodaeth gyfredol am deuluoedd, sy’n golygu bod yn rhaid i aelodau o’r teulu ailadrodd hanes eu hachosion yn gyson ym mhob cyfarfod ac ymgynghoriad
- Yn aml nid oes iaith gyffredin i ddisgrifio’r un pethau rhwng gwahanol sefydliadau a phroffesiynau
- Ni all staff mewn gwahanol awdurdodau lleol, gwasanaethau a phroffesiynau rannu gwybodaeth yn hawdd ac yn ddiogel ar draws ffiniau sefydliadol
- Gall plant lithro drwy’r rhwyd pan fydd atgyfeiriadau yn anghyflawn neu’n cael eu gohirio, oherwydd rhwystrau system eraill
- Hoffen ni wella ein gwaith o fonitro targedau gwasanaeth a sicrhau ei bod hi’n hawdd olrhain canlyniadau i blant unigol ac ar gyfer ein poblogaeth Blynyddoedd Cynnar
Mae angen i ni gael:
- Ffyrdd i weithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth ledled y rhanbarth allu cael mynediad, diweddaru a rhannugwybodaeth deuluol yn hawdd, o’r ddyfais maen nhw’n ei defnyddio eisoes ac o’r man lle maen nhw eisoes yn gwneud eu gwaith (sef, os ydyn nhw’n fydwraig, yn aml ar y ffordd)
- Safonau cytunedig ar gyfer casglu, storio a chael mynediad at ddata
- Rhoi gwybod am ddangosyddion lefel poblogaeth yn awtomatig
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Sicrhau bod lleisiau defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd bopeth a wnawn (trwy roi mwy o bwyslais ar gasglu adborth a’i ddefnyddio i wella gwasanaethau)
- Parhau i adeiladu sylfaen dystiolaeth sy’n cefnogi buddsoddiad mewn TG a rennir, a lobïo i’r newid hwnnw gael ei flaenoriaethu
- Parhau i gyflwyno’r achos dros offer sy’n caniatáu i staff awgrymu newidiadau a gwelliannau
4. Datblygu ein gweithlu
Mae angen i ni wneud hyn am y rhesymau canlynol:
- Nid yw teuluoedd bob amser yn cael y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw, oherwydd diffyg staff.
- Mae staff ym maes iechyd, gofal ac addysg yn brysur iawn a gall yr amgylchedd gwaith fod yn straen.
- Nid oes iaith gyffredin i ddisgrifio’r un pethau rhwng gwahanol sefydliadau a phroffesiynau.
- Nid yw pob cydweithiwr wedi cael hyfforddiant ar wasanaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae angen i ni:
- Denu a hyfforddi gweithwyr newydd a gweithwyr sy’n dychwelyd i’r gweithlu Blynyddoedd Cynnar
- Sicrhau bod cydweithwyr yn hapusach, yn fwy hyderus ac o dan lai o straen
- Sicrhau bod iaith gyffredin yn cael ei defnyddio yn eang a ffyrdd cyffredin o weithio
- Cael cyfleoedd hyfforddi ar draws gwasanaethau, yn enwedig mewn gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- Gwybod am sgiliau y gellir eu trosglwyddo rhwng gwasanaethau a phroffesiynau
- Cael llwybrau gyrfa cliriach i weithwyr y Blynyddoedd Cynnar
- Sicrhau mwy o dimau amlddisgyblaethol
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Cyflwyno’r achos dros fuddsoddi mewn tyfu’r tîm, gan gynnwys marchnata, recriwtio a hyfforddiant priodol
- Meithrin cysylltiadau agosach ag ysgolion, colegau a gwasanaethau gyrfaoedd, i hyrwyddo swyddi a lleoliadau profiad gwaith yn y sector
- Datblygu cynnig hyfforddiant sylfaenol cyffredin ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol Blynyddoedd Cynnar
- Datblygu cynlluniau dilyniant gyrfa clir, gan gynnwys datblygiad personol ac opsiynau hyfforddi
- Bwrw golwg ar sut y gallen ni fuddsoddi mewn rolau ar draws ein hawdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd sydd â chyfrifoldeb am gyhoeddi a chynnal y wybodaeth honno
- Ymgymryd â gwaith mapio/adolygu i gael gwell dealltwriaeth o lwybrau cyfredol
- Sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn fwy hyderus i gyfeirio teuluoedd at wasanaethau gwybodaeth
5. Darparu gwybodaeth hygyrch
Mae angen i ni wneud hyn am y rhesymau canlynol:
- Mae teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn cael trafferth dod o hyd i wybodaeth glir am y gwasanaethau sydd ar gael
- Nid yw teuluoedd bob amser yn gwybod ble i droi
- Nid yw gweithwyr proffesiynol bob tro yn gwybod am y broses gyfeirio cywir
- Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn aml yn dameidiog; os nad ydych eisoes yn gwybod ble i edrych, mae’n anodd dod o hyd i’r wybodaeth
Mae angen i ni gael y canlynol:
- Gwybodaeth glir, hygyrch, gynhwysfawr a syml mewn un lle
- Gwybodaeth ar-lein sy’n dda ac yn hawdd i’w defnyddio
- Y gallu i weithwyr proffesiynol olygu neu anodi gwybodaeth amdano, yn gyflym ac yn hawdd
- Gwybodaeth fwy eang am lwybrau gofal, ac opsiynau ar gyfer atgyfeirio; os yw gweithwyr proffesiynol yn gwybod mwy am y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, byddan nhw yn fwy tebygol o’i awgrymu i deuluoedd
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Bwrw golwg ar sut y gallen ni fuddsoddi mewn rolau ar draws ein hawdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd sydd â chyfrifoldeb am gyhoeddi a chynnal y wybodaeth honno
- Ymgymryd â gwaith mapio/adolygu i gael gwell dealltwriaeth o lwybrau cyfredol
- Sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn fwy hyderus i gyfeirio teuluoedd at wasanaethau gwybodaeth
Sut byddwn yn cyflawni hyn?
Mae pum thema strategol:
1. Integreiddio ein gwasanaethau
Mae angen hyn arnom oherwydd:
- Mae gweithio ar wahân yn creu rhwystrau rhwng gwasanaethau a bylchau y gall teuluoedd lithro rhyngddynt
- Gwyddom fod teuluoedd (yn enwedig teuluoedd mewn angen) yn cael gofal gwell pan fydd gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd
- Mae adnoddau dan bwysau; trwy gydweithio, gallwn osgoi dyblygu, lleihau gwastraff ac adeiladu ar waith ein gilydd
Mae angen:
- Gwneud penderfyniadau ar y cyd wedi’i ategu gan rannu gwybodaeth
- Systemau ar gyfer cydweithio rhwng cynghorau
- Dull seiliedig ar le o ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys timau’r Blynyddoedd Cynnar wedi’u cydleoli lle bo’n briodol
- Cyfathrebu gwell rhwng gwasanaethau
- Perthnasoedd mwy cadarnhaol rhwng grwpiau proffesiynol
- Gweithlu wedi’i ysgogi a’i rymuso i weithio ar draws ffiniau gwasanaethau
- Gweithlu sy’n teimlo fel un tîm, yn cyd-dynnu i gyflawni’r un nodau
Byddwn yn cyrraedd yno trwy:
- Sefydlu mwy o dimau wedi’u cydleoli ar draws y rhanbarth
- Archwilio opsiynau ar gyfer comisiynu ar y cyd neu gydgomisiynu
- Dysgu o werthusiadau o waith peilot braenaru
- Helpu gweithwyr proffesiynol i gasglu adborth gan deuluoedd fel y gellir ei ddefnyddio wrth gynllunio a gweithgareddau cyd-ddylunio gwasanaethau yn y dyfodol
2. Mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn at gynllunio gwasanaethau
Mae angen hyn arnom oherwydd:
- Rydym am gynnig gwasanaethau hygyrch y mae teuluoedd am eu defnyddio
- Gyda’r adnoddau presennol mae’n anodd cynllunio gwasanaethau i fod yn wirioneddol person-ganolog
- Nid ydym yn gwybod digon am anghenion ein holl ddefnyddwyr gwasanaeth ac nid ydym yn cydnabod pa mor wahanol yw’r anghenion hyn, na sut y maent yn newid dros amser.
- Gall teuluoedd deimlo eu bod yn cael eu tanseilio a’u gadael ar eu pennau eu hunain pan nad yw gwasanaethau yn adeiladu o’u cryfderau yn ogystal â’u hanghenion
Mae angen:
- Ymchwil rheolaidd gyda defnyddwyr gwasanaeth a dolenni adborth syml fel y gallwn weld ein gwasanaethau a’n gweithlu trwy lygaid y teuluoedd sy’n dibynnu arnynt
- Datblygu sgiliau gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar fel eu bod wedi’u paratoi’n well i adnabod cryfderau teuluoedd a gwrando ar anghenion teuluoedd
- Gwasanaethau a arweinir gan y gymuned a gomisiynir o’r gwaelod i fyny
- Nodi a dileu rhwystrau i fynediad at wasanaethau, e.e. trwy gael gwasanaethau i weithio’n well ar draws ffiniau cynghorau
- Llai o fiwrocratiaeth
Byddwn yn cyrraedd yno trwy:
- Cyllidebu ar gyfer ymgynghoriad rheolaidd â defnyddwyr gwasanaeth
- Gwneud mwy o hyfforddiant a datblygiad cyd-ddylunio’r gweithlu i helpu gweithwyr proffesiynol i ddal a chynrychioli lleisiau teuluoedd
- Cynyddu cydweithio rhanbarthol ac integreiddio gwasanaethau
- Chwilio am ffyrdd o fuddsoddi mewn gwasanaethau a arweinir gan y gymuned
3. Datblygu seilwaith a systemau technoleg er mwyn gallu cydweithio
Mae angen hyn arnom oherwydd:
- Nid oes gan weithwyr proffesiynol gwasanaethau fynediad at y wybodaeth ddiweddaraf a rennir am deuluoedd sy’n golygu bod rhaid i aelodau’r teulu ailadrodd hanes eu hachos yn gyson ym mhob cyfarfod ac ymgynghoriad
- Ni all staff mewn cynghorau, gwasanaethau a phroffesiynau gwahanol rannu gwybodaeth yn hawdd ac yn ddiogel ar draws ffiniau sefydliadol
- Gall plant gael eu colli pan fydd atgyfeiriadau’n anghyflawn neu’n cael eu gohirio oherwydd rhwystrau system eraill
- Hoffem wella ein dulliau monitro targedau gwasanaeth a’i gwneud yn hawdd i olrhain canlyniadau ar gyfer plant unigol ac ar gyfer ein poblogaeth y Blynyddoedd Cynnar
Mae angen:
- Ffordd i weithwyr proffesiynol gwasanaethau ar draws y rhanbarth gael mynediad hawdd, diweddaru a rhannu gwybodaeth am y teulu, o’r ddyfais y maent yn ei defnyddio eisoes ac o’r man lle maent eisoes yn gwneud eu gwaith (a fydd, os ydynt yn fydwraig, ar y ffordd yn aml)
- Safonau cytûn ar gyfer casglu, storio a chael mynediad at ddata
- Adrodd yn awtomataidd ar ddangosyddion lefel poblogaeth
Byddwn yn cyrraedd yno trwy:
- Gwreiddio llais defnyddwyr gwasanaeth ym mhopeth a wnawn (trwy roi mwy o bwyslais ar gasglu adborth a’i ddefnyddio i wella gwasanaethau)
- Parhau i adeiladu sylfaen dystiolaeth sy’n cefnogi buddsoddiad mewn TG a rennir a lobïo i’r newid hwnnw gael ei flaenoriaethu
- Parhau i ddadlau dros ddolenni adborth syml a fyddai’n galluogi staff i awgrymu newidiadau a gwelliannau
4. Datblygu ein gweithlu
Mae angen hyn arnom oherwydd:
- Nid yw teuluoedd bob amser yn cael y gofal a’r cymorth y mae eu hangen arnynt oherwydd diffyg staff.
- Mae staff ym maes iechyd, gofal ac addysg yn hynod brysur a gall yr amgylchedd gwaith fod yn straen.
- Nid oes iaith gyffredin i ddisgrifio’r un pethau rhwng sefydliadau a phroffesiynau gwahanol. Mae hyn wedi achosi dryswch diangen ac yn arafu pethau.
- Nid yw pob cydweithiwr wedi bod yn hyfforddi ar wasanaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae angen:
- Denu a hyfforddi recriwtiaid newydd a’r rhai sy’n dychwelyd i weithlu’r Blynyddoedd Cynnar
- Cydweithwyr hapusach, mwy hyderus sydd o dan lai o bwysau
- Iaith gyffredin a ddefnyddir yn eang a ffyrdd cyffredin o weithio
- Cyfleoedd hyfforddi traws-wasanaeth, yn enwedig ym maes gofal ar sail tystiolaeth
- Cydnabod sgiliau trosglwyddadwy rhwng gwasanaethau a phroffesiynau
- Llwybrau gyrfa cliriach i weithwyr y Blynyddoedd Cynnar
- Mwy o dimau amlddisgyblaethol
Byddwn yn cyrraedd yno trwy:
- Chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi mewn tyfu’r tîm, gyda marchnata, recriwtio a hyfforddiant priodol
- Meithrin cysylltiadau agosach ag ysgolion, colegau a gwasanaethau gyrfaoedd i hyrwyddo swyddi a lleoliadau profiad gwaith yn y sector
- Datblygu cynnig hyfforddiant sylfaenol cyffredin ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar
- Datblygu cynlluniau dilyniant gyrfa clir, gan gynnwys opsiynau datblygiad personol a hyfforddiant
5. Darparu gwybodaeth hygyrch
Mae angen hyn arnom oherwydd:
- Nid yw’n hawdd dod o hyd i wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael, i deuluoedd neu weithwyr proffesiynol. O ganlyniad, mae rhai gwasanaethau’n cael eu tanddefnyddio
- Felly nid yw teuluoedd yn gwybod ble i droi. Nid yw gweithwyr proffesiynol bob amser yn gwybod ble i’w cyfeirio nhw.
- Mae’r wybodaeth sy’n bodoli yn dameidiog; os nad ydych chi’n gwybod ble i edrych, mae’n anodd dod o hyd i’r wybodaeth.
- Mae’n gostus ac yn cymryd llawer o amser i gadw’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi’i ddiweddaru, ac mae amser staff ar gyfer hyn yn gyfyngedig.
Mae angen:
- Gwybodaeth glir, hygyrch, gynhwysfawr a syml mewn un lle
- Gwybodaeth ar-lein sydd mor dda ac mor hawdd i’w defnyddio, ac felly’n marchnata ei hun ar lafar
- Y gallu i weithwyr proffesiynol olygu neu anodi gwybodaeth arni yn gyflym ac yn hawdd
- Gwybodaeth sefydliadol well am lwybrau gofal, ac opsiynau ar gyfer atgyfeirio; os yw gweithwyr proffesiynol yn gwybod mwy am y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd byddant yn fwy tebygol o’i awgrymu fel ffynhonnell cymorth i deuluoedd
Byddwn yn cyrraedd yno trwy:
- Archwilio syniadau ac opsiynau ar gyfer un gwasanaeth gwybodaeth ar-lein a rennir
- Archwilio sut y gallem fuddsoddi mewn rolau ar draws Cynghorau a’r Bwrdd Iechyd sydd â chyfrifoldeb am gyhoeddi a chynnal y wybodaeth honno
- Ymgymryd â gwaith mapio/adolygu i ddeall y llwybrau presennol yn well
- Darparu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol gwasanaethau fel eu bod yn teimlo eu bod mewn sefyllfa well i atgyfeirio teuluoedd at wasanaethau gwybodaeth
- Chwilio am gyfleoedd i weithio gydag asiantaethau eraill ar fuddsoddiadau mewn gwasanaethau gwybodaeth ar-lein yn y dyfodol
