Beth mae’r strategaeth yn ei olygu ar gyfer
partneriaid rhanbarthol

Mae “partneriaid rhanbarthol” yn golygu’r tri chyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’n partneriaid trydydd sector sydd wedi comisiynu’r strategaeth hon ar y cyd.

Buddsoddi yng ngweithlu’r Blynyddoedd Cynnar

  • Bydd angen i’r partneriaid wneud ymrwymiad i recriwtio i rolau’r Blynyddoedd Cynnar a lleihau cyfraddau swyddi gwag mewn gwasanaethau allweddol. Bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad gwirioneddol a gweladwy yng ngweithlu’r Blynyddoedd Cynnar
  • Dylai sefydliadau partner weithio gyda cholegau, ysgolion a gwasanaethau gyrfaoedd lleol i hyrwyddo swyddi a phrofiad gwaith yn y sector.
  • Dylai sefydliadau partner sicrhau bod rheolaeth llinell effeithiol a llwythi gwaith cynaliadwy gan staff a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael sylw.
  • Dylem ddarparu adnoddau ar y cyd ar gyfer hyfforddiant sylfaenol cyffredin ar gyfer holl weithwyr proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar yn y rhanbarth
  • Dylem hwyluso cydleoli, secondiadau a chyfleoedd meithrin perthynas i staff ar bob lefel
  • Dylai sefydliadau partner sicrhau bod cyfleoedd dysgu ar gael i bob gwasanaeth, er enghraifft trwy gyhoeddi argymhellion o gynlluniau peilot braenaru

Hwyluso atebion o’r gwaelod i fyny ac arloesi a arweinir gan y gymuned

  • Dylai staff ym mhob sefydliad partner baratoi ar gyfer newid, a gwneud pethau’n wahanol
  • Dylem greu cyfleoedd ar gyfer datblygu gwasanaethau a arweinir gan y gymuned ac arloesi
  • Dylai pob sefydliad partner gynnwys teuluoedd a gweithwyr proffesiynol wrth ddylunio a datblygu gwasanaethau

Cydweithio rhanbarthol i wella gwasanaethau a sicrhau arbedion effeithlonrwydd

  • Dylai sefydliadau partner fuddsoddi ar y cyd mewn un gwasanaeth gwybodaeth ar-lein a rennir sy’n wirioneddol wych – bydd hyn yn gofyn am adnodd ar y cyd ar gyfer cyhoeddi a chynnal y wybodaeth honno
  • Yn yr un modd mae angen buddsoddiad ar y cyd arnom mewn dull ar gyfer rheoli gwybodaeth sy’n gweithio i holl weithwyr proffesiynol y gwasanaeth ar draws y rhanbarth
  • Dylai sefydliadau partner ddatblygu prosesau atgyfeirio cyffredin a phlatfform atgyfeirio a rennir
  • Dylai sefydliadau partner ymrwymo i weithredu ar argymhellion o’r cynlluniau peilot braenaru ar lefel ranbarthol, e.e. ynghylch darpariaeth bydwreigiaeth

Alinio cyllidebau a nodi dyblygu

  • Dylai sefydliadau partner rannu gwasanaethau ac adnoddau fel bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at ystod eang o wasanaethau sy’n ateb eu hanghenion orau, waeth beth fo’u lleoliad
  • Gyda’i gilydd dylai’r partneriaid gomisiynu ymgynghoriad ac ymchwil defnyddwyr i ddeall anghenion gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth ac anghenion teuluoedd
  • Dylai sefydliadau partner gydweithio ar fuddsoddi mewn seilwaith i gefnogi gwasanaeth gwybodaeth a rennir