Beth mae’r strategaeth yn ei olygu ar gyfer
teuluoedd a phlant

Dylai teuluoedd a phlant yng Ngorllewin Cymru allu cael mynediad at wasanaethau’n gyflym, yn hawdd, waeth ble maent yn byw.

Bydd teuluoedd a phlant yn cwrdd â staff sy’n ffynnu yn eu rôl ac yn barod i’w cefnogi

  • Dylai gwasanaethau gael eu staffio’n dda gyda chynlluniau yn eu lle ar gyfer recriwtio
  • Dylai staff fod wedi’u hyfforddi a’u rheoli’n dda. Rydym am iddynt deimlo’n llawn cymhelliant a bodlon yn eu swyddi
  • Dylai staff allu gweld cofnodion teulu pryd bynnag y bo angen. Mae angen i’r wybodaeth fod yn ddiogel ond yn hygyrch

Bydd teuluoedd a phlant yn cael mynediad at gymorth cyn gynted â phosibl

  • Dylid cynnig cymorth i bob teulu yn gynnar yn ystod beichiogrwydd
  • Dylid hysbysebu gwasanaethau i deuluoedd, ni ddylai fod angen iddynt fynd i chwilio amdanynt
  • Bydd gweithwyr proffesiynol yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau arbenigol sydd ar gael a helpu plant ag anghenion ychwanegol i gael mynediad atynt

Dylai gwasanaethau fod yn gydgysylltiedig ac yn hawdd cael mynediad atynt

  • Mae’n bosibl y bydd rhai gwasanaethau’n cael eu had-drefnu i’w gwneud yn fwy hygyrch i deuluoedd, er enghraifft trwy ddod â nhw at ei gilydd mewn un lle
  • Bydd plant ag anghenion ychwanegol yn cael eu cysylltu â thimau aml-asiantaeth
  • Dylai teuluoedd allu cael mynediad at y gwasanaeth mwyaf cyfleus, hyd yn oed os yw’n cael ei ddarparu gan gyngor arall

Ni ddylai teuluoedd orfod meddwl am y system

  • Ni ddylai teuluoedd orfod adrodd eu straeon fwy nag unwaith – mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod gan weithwyr proffesiynol mewn gwasanaethau gwahanol fynediad at yr un wybodaeth
  • Dylai cofnodion ddilyn plant wrth iddynt heneiddio a symud trwy wasanaethau gwahanol
  • Dylai atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau arbenigol fod yn llai trafferthus

Bydd gwasanaethau’n cael eu had-drefnu i’w gwneud yn well i deuluoedd

  • Bydd gwybodaeth am wasanaethau yn hawdd i’w chael, yn hawdd i’w defnyddio ac wedi’i diweddaru
  • Bydd teuluoedd yn cael mwy o gyfleoedd i gyfrannu at gynllunio a darparu gwasanaethau
  • Bydd gwasanaethau’n cael eu cynllunio gyda theuluoedd mewn golwg