Beth mae’r strategaeth yn ei olygu ar gyfer
Mae “partneriaid rhanbarthol” yn golygu’r tri chyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’n partneriaid trydydd sector sydd wedi comisiynu’r strategaeth hon ar y cyd.
Buddsoddi yng ngweithlu’r Blynyddoedd Cynnar
- Bydd angen i’r partneriaid wneud ymrwymiad i recriwtio i rolau’r Blynyddoedd Cynnar a lleihau cyfraddau swyddi gwag mewn gwasanaethau allweddol. Bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad gwirioneddol a gweladwy yng ngweithlu’r Blynyddoedd Cynnar
- Dylai sefydliadau partner weithio gyda cholegau, ysgolion a gwasanaethau gyrfaoedd lleol i hyrwyddo swyddi a phrofiad gwaith yn y sector.
- Dylai sefydliadau partner sicrhau bod rheolaeth llinell effeithiol a llwythi gwaith cynaliadwy gan staff a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael sylw.
- Dylem ddarparu adnoddau ar y cyd ar gyfer hyfforddiant sylfaenol cyffredin ar gyfer holl weithwyr proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar yn y rhanbarth
- Dylem hwyluso cydleoli, secondiadau a chyfleoedd meithrin perthynas i staff ar bob lefel
- Dylai sefydliadau partner sicrhau bod cyfleoedd dysgu ar gael i bob gwasanaeth, er enghraifft trwy gyhoeddi argymhellion o gynlluniau peilot braenaru
Hwyluso atebion o’r gwaelod i fyny ac arloesi a arweinir gan y gymuned
- Dylai staff ym mhob sefydliad partner baratoi ar gyfer newid, a gwneud pethau’n wahanol
- Dylem greu cyfleoedd ar gyfer datblygu gwasanaethau a arweinir gan y gymuned ac arloesi
- Dylai pob sefydliad partner gynnwys teuluoedd a gweithwyr proffesiynol wrth ddylunio a datblygu gwasanaethau
Cydweithio rhanbarthol i wella gwasanaethau a sicrhau arbedion effeithlonrwydd
- Dylai sefydliadau partner fuddsoddi ar y cyd mewn un gwasanaeth gwybodaeth ar-lein a rennir sy’n wirioneddol wych – bydd hyn yn gofyn am adnodd ar y cyd ar gyfer cyhoeddi a chynnal y wybodaeth honno
- Yn yr un modd mae angen buddsoddiad ar y cyd arnom mewn dull ar gyfer rheoli gwybodaeth sy’n gweithio i holl weithwyr proffesiynol y gwasanaeth ar draws y rhanbarth
- Dylai sefydliadau partner ddatblygu prosesau atgyfeirio cyffredin a phlatfform atgyfeirio a rennir
- Dylai sefydliadau partner ymrwymo i weithredu ar argymhellion o’r cynlluniau peilot braenaru ar lefel ranbarthol, e.e. ynghylch darpariaeth bydwreigiaeth
Alinio cyllidebau a nodi dyblygu
- Dylai sefydliadau partner rannu gwasanaethau ac adnoddau fel bod teuluoedd yn gallu cael mynediad at ystod eang o wasanaethau sy’n ateb eu hanghenion orau, waeth beth fo’u lleoliad
- Gyda’i gilydd dylai’r partneriaid gomisiynu ymgynghoriad ac ymchwil defnyddwyr i ddeall anghenion gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth ac anghenion teuluoedd
- Dylai sefydliadau partner gydweithio ar fuddsoddi mewn seilwaith i gefnogi gwasanaeth gwybodaeth a rennir