canlyniadau a dangosyddion
Monitro cynnydd ac adeiladu dangosfwrdd data
Rydym yn adeiladu dangosfwrdd data mamolaeth a’r Blynyddoedd Cynnar rhanbarthol gan ddwyn ynghyd ystadegau allweddol o bob partner ac ar draws ein rhanbarth mewn fformat hawdd ei gyrchu.
Bydd y dangosfwrdd yn olrhain y canlyniadau ar gyfer plant yn y rhanbarth a chynnydd ar y camau gweithredu rydym yn eu cynllunio.
Bydd hyn yn golygu monitro:
- Y nifer a’r mathau o gyfleoedd a gynigir i deuluoedd a chymunedau gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau am wasanaethau
- Cynigion gwirfoddoli, hyfforddiant neu gyflogaeth mewn rolau’r Blynyddoedd Cynnar i bobl leol
- Nifer y cysylltiadau â phlant a wneir gan Blant Iach Cymru a rhaglenni eraill
- Profiadau teuluoedd o bontio rhwng asiantaethau a gwasanaethau wrth i’w plant heneiddio
- Nifer ac ystod y cyfleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol
- Llesiant a boddhad swydd ymysg ein staff y Blynyddoedd Cynnar
Canlyniadau a dangosyddion iechyd a llesiant rhanbarthol
Mae angen i ni hefyd sicrhau bod ein gwasanaethau yn gwneud gwahaniaeth i lesiant plant a theuluoedd. Felly rydym wedi dewis dangosyddion o Fframwaith Canlyniadau’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru i’n helpu i olrhain ein cynnydd.
Mae ein strategaeth yn rhoi’r cyfeiriad ar gyfer cyflawni’r canlyniadau hyn a bydd yn cael ei hadolygu wrth i ddata gael eu diweddaru. Mae angen cefnogaeth pawb arnom. Cysylltwch â ni i godi eich cwestiynau a chynnig eich syniadau ar sut i wireddu hyn.