cyd-destun
Mae gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar i blant y rhanbarth yn cael eu darparu ar y cyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn gyd-ddibynnol ac yn gysylltiedig. Gall teuluoedd gael mynediad at wahanol fathau o gymorth wrth i’w hanghenion newid.
Mae’r fframwaith y cymorth cywir ar yr adeg gywir wedi’i seilio ar egwyddorion cyffredinoliaeth gymesur. Mae hyn yn golygu bod pob teulu yn cael cymorth ond y rhai sydd â’r angen mwyaf sy’n cael y cymorth mwyaf.
Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae pob awdurdod lleol yn casglu gwybodaeth i deuluoedd am ofal plant a’r gwasanaethau eraill sydd ar gael yn eu hardal.
Cymorth cyffredinol
Rhaglen Plant Iach Cymru
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi’r cyfeiriad strategol i Fyrddau Iechyd yng Nghymru ar gyfer darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar sydd wedi’u cynllunio i sicrhau bod plant yn cael yr iechyd gorau posibl. Cyflawnir hyn trwy gydweithio â theuluoedd, asiantaethau partner a darparwyr gwasanaethau sy’n gweithio gyda menywod beichiog a theuluoedd â phlant ifanc.
Mae’n disgrifio’r rhaglen graidd gyffredinol gynyddol ar gyfer pob teulu â phlant o dan 7 oed. Mae lefel yr ymyrraeth yn cael ei phennu gan asesiad Ymwelydd Iechyd neu Nyrs Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol o wydnwch a bregusrwydd teulu. Mae cymorth safonol ar gael i bawb, gyda chymorth ychwanegol neu fwy dwys yn cael ei gynnig i deuluoedd sydd â’r angen mwyaf.
Nod y rhaglen yw:
- helpu teuluoedd i wneud dewisiadau hirdymor iach
- magu perthnasoedd cadarnhaol rhwng rhiant a phlentyn a sicrhau ymlyniadau emosiynol i blant
- hybu iechyd emosiynol a gwydnwch cadarnhaol y fam a’r teulu, gan helpu plant i gyrraedd yr holl gerrig milltir twf a datblygiad fel eu bod yn barod i fynd i’r ysgol
- cefnogi pontio o’r cartref i’r ysgol
- sicrhau ymrwymiad i ddiogelu iechyd a llesiant pob plentyn 0-7 oed yng Nghymru
Cynnig Gofal Plant Cymru
Mae ‘Cynnig Gofal Plant Cymru’ yn darparu cymysgedd o ofal plant ac addysg gynnar i blant tair neu bedair blwydd oed ar gyfer rhieni sy’n gweithio ac yn fyfyrwyr.
Mae gofal plant yn cynnwys:
- meithrinfeydd
- gwarchodwyr plant
- cylchoedd chwarae
- crèche
- gofal plant y tu allan i oriau ysgol
- nanis
Gofal plant yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu teuluoedd sy’n gweithio yng Nghymru. Mae helpu teuluoedd gyda gofal plant hyblyg a fforddiadwy o safon dda yn cynnal adfywio economaidd, yn gallu lleihau’r pwysau ar incwm teulu, ac yn helpu rhieni i fynd i weithio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’i ariannu ar gyfer rhieni plant 3 a 4 oed sy’n gweithio am 48 wythnos y flwyddyn.
Addysg y Blynyddoedd Cynnar
O fis Medi 2022 bydd y Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn cael ei ddefnyddio gan feithrinfeydd ac ysgolion i arwain addysg plant 3 i 16 oed. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn gyd-ddibynnol ac yn gysylltiedig. Gall teuluoedd gael mynediad at wahanol fathau o gymorth wrth i’w hanghenion newid. Mae gan y cwricwlwm bedwar diben:
- Galluogi pob disgybl a phlentyn i ddatblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes;
- Galluogi pob disgybl a phlentyn i ddatblygu i fod yn gyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
- Galluogi pob disgybl a phlentyn i ddatblygu’n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd;
- Galluogi pob disgybl a phlentyn i ddatblygu’n unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw bywyd llawn gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae’r cyfnodau a chyfnodau allweddol sydd yn eu lle cyn 2022 yn cael eu disodli gan un continwwm dysgu er mwyn sicrhau taith ddysgu fwy esmwyth. Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn cyfateb â cham cynnydd 1 (3-5 oed) a cham cynnydd 2 (5-8 oed).
Cymorth ychwanegol ac wedi’i dargedu
Dechrau’n Deg
Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd â phlant o dan 4 oed trwy ddarparu:
- Gofal plant rhan-amser ar gyfer plant 2 i 3 oed
- Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd ychwanegol
- Mynediad at raglenni magu plant
- Cymorth i blant ddysgu sut i siarad a chyfathrebu
Mae Egwyddorion Arweiniol y rhaglen Dechrau’n Deg fel a ganlyn:
- Gweithio aml-asiantaeth a chydleoli – hwyluso a galluogi gweithio aml-asiantaeth a chydleoli lle bynnag y bo modd.
- Adnabod yn gynnar, asesu ac atgyfeirio effeithiol i sicrhau bod teuluoedd yn cael cymorth cyn gynted â phosibl.
- Sicrhau bod teuluoedd “anodd eu cyrraedd” yn cael eu cyrraedd – defnyddio cyffredinoliaeth wedi’i thargedu fel modd o sicrhau bod teuluoedd anodd eu cyrraedd yn cael y wybodaeth, y cyngor a’r cymorth sydd eu hangen arnynt mewn ffordd heb ei stigmateiddio.
- Pontio – i ganolbwyntio ar alluogi pontio effeithiol rhwng gwasanaethau, gan ddefnyddio protocolau rhannu gwybodaeth a gweithlu ymroddedig, hyfforddedig sy’n rhoi teuluoedd yn gyntaf.
- Rhannu gwybodaeth a diogelu.
- Trefniadau llywodraethu aml-asiantaeth da.
- Ymrwymiad i werthuso parhaus er mwyn i raglenni gael eu teilwra’n well i weddu i’r hyn sy’n gweithio ac yn fwy ymatebol i’r hyn sydd ei angen.
Ers 2007 mae cymorth Dechrau’n Deg wedi’i dargedu at blant sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. O 2022 bydd y cymorth hwn yn cael ei ehangu’n sylweddol i gyrraedd nifer fwy o blant ym mhob ardal. Pan gaiff ei gyflwyno’n llawn, bydd Dechrau’n Deg yn gynnig cyffredinol, gyda phob plentyn rhwng 2 a 3 oed yn gymwys i gael 12.5 awr o ofal plant o safon uchel wedi’i ariannu 39 wythnos y flwyddyn.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) disgrifir y ddarpariaeth statudol yn y Cod ADY. Mae’r cod yn rhoi safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r dysgwyr wrth wraidd y cynllunio ar gyfer y cymorth sydd ei angen ar bob plentyn i’w alluogi i ddysgu’n effeithiol.
Bydd Swyddog Dysgu ADY y Blynyddoedd Cynnar ym mhob Cyngor yn helpu i adnabod anghenion plant yn gynnar, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir. Byddant yn gweithio mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd ac yn codi ymwybyddiaeth o ADY yn eu hardal.
Bydd Awdurdodau Lleol yn rhoi Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) ar waith i blant ag ADY. Lle bo angen, bydd CDUau yn cynnwys darpariaeth dysgu ychwanegol wedi’i chytuno gan wasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill yn ogystal ag addysg. Bydd CDUau yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n nodi’n glir pa asiantaeth sy’n gyfrifol am gyflwyno’r elfennau unigol.
Teuluoedd yn Gyntaf
Mae Teuluoedd yn Gyntaf ar gael i bob teulu, ac mae’r math o gymorth a gynigir yn dibynnu ar anghenion penodol pob teulu.
Mae pob Cyngor yn trefnu’r cynnig Teuluoedd yn Gyntaf lleol, a gallant helpu gyda’r canlynol:
- asesu anghenion teulu a rhoi cymorth at ei gilydd i ateb yr anghenion hyn
- cydlynu cymorth gan wahanol asiantaethau
- trefnu cymorth os oes anabledd gan rywun yn y teulu
- cynghori ar brosiectau penodol a all helpu anghenion penodol teulu
Mae’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ceisio darparu cymorth sy’n canolbwyntio ar y teulu, wedi’i deilwra, sy’n grymuso, integredig a dwys i deuluoedd.
Tîm o Amgylch y Teulu
Mae’r Tîm o Amgylch y Teulu yn rhan o’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf.
Mae’n ffordd gydweithredol o weithio sy’n dod â nifer o asiantaethau ynghyd i gyflwyno cynllun cymorth a gwella canlyniadau i deulu, plentyn neu berson ifanc.
Mae’r asiantaethau’n defnyddio offeryn asesu Fframwaith Asesu’r Teulu ar y Cyd i nodi pa anghenion nad ydynt yn cael eu hateb, a chynllunio ffyrdd o’u hateb. Lle mae angen cymorth aml-asiantaeth, penodir Gweithiwr Allweddol y Tîm o Amgylch y Teulu i gydlynu’r gwaith, a sicrhau ei fod yn ateb anghenion y teulu.
Asesiad ar gyfer gofal a chymorth a Chymorth Amddiffyn
Asesiad ar gyfer Gofal a Chymorth
Mae Gwasanaethau Plant Statudol yn gyfrifol am gefnogi ac amddiffyn plant a theuluoedd agored i niwed sydd ag anghenion ychwanegol y tu hwnt i’r hyn y gall gwasanaethau iechyd, addysg neu gymunedol gynnig cymorth ar ei gyfer.
Lle bynnag y bo modd, bydd Gwasanaethau Plant yn ceisio helpu teuluoedd i weithredu heb ymyrraeth statudol.
Mae gan y Gwasanaethau Plant ddyletswydd i ddiogelu plant a allai fod mewn perygl o niwed a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc. Pan godir pryder ynghylch diogelu ac mae gweithwyr proffesiynol yn credu na all anghenion plentyn gael eu hateb heb gyfranogiad gwasanaeth statudol, gellir cyfeirio plant i gael “Asesiad ar gyfer Gofal a Chymorth”.
Mae hyn yn golygu y bydd Tîm Asesu yn ystyried anghenion gofal a chymorth plentyn a’i deulu ac yn ymchwilio i unrhyw bryderon am ddiogelwch plentyn. Bydd yr asesiad yn ystyried a ellir ateb anghenion y plentyn gyda chymorth, neu a oes anghenion parhaus ac a allai fod angen cymorth mwy tymor hir gan y Tîm Gofal Plant.
Mae nifer o wasanaethau statudol dwys sy’n cefnogi plant a theuluoedd, er enghraifft y Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd, Tîm Ymyriadau Teuluol, Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau, neu Wasanaethau Trais Domestig.
Lle bo angen, caiff plant eu hychwanegu at y gofrestr amddiffyn plant, a chaiff cynllun amddiffyn plant ei lunio.
Bydd achos pob plentyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd hyd nes yr adeg pan na fydd y plentyn yn cael ei ystyried mewn perygl o niwed arwyddocaol mwyach.
Cymorth Amddiffyn: Mae gan bob plentyn riant
Mae Gwasanaethau Cymorth Amddiffyn yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc y mae angen eu hamddiffyn, sydd angen camau amddiffyn neu sydd ag angen brys i’w diogelu.
Rhaid i bob plentyn gael rhiant, a lle nad yw teuluoedd yn gallu gofalu am eu plant, daw Awdurdodau Lleol yn rhiant iddynt (a elwir yn rhianta corfforaethol). Lle bynnag y bo modd, ceisiwn gadw teuluoedd gyda’i gilydd – mae gan blant yr hawl i fyw mewn teulu. Dylai rhianta corfforaethol fod yn ddewis olaf bob amser.
Mae llesiant y plant hyn yn gyfrifoldeb ar y cyd i’r cyngor, eu gweithwyr, a’n hasiantaethau partner. Rydym yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn ffynnu, rydym yn gweithredu i amddiffyn eu hawliau, ac yn sicrhau’r canlyniadau gorau.
Mae gofal cymdeithasol plant yn cael ei drefnu gan bob cyngor, ond byddwn yn gweithredu gyda’n gilydd ar draws gwasanaethau a chynghorau i ddarparu’r gofal gorau.