cyflwyniad

Y cychwyn cywir, o’r cychwyn cyntaf

Pam bod y Blynyddoedd Cynnar mor bwysig

Wrth sôn am y “Blynyddoedd Cynnar”, rydyn ni’n cyfeirio at saith mlynedd gyntaf bywyd plentyn – pan fo plant yn tyfu ac yn datblygu fwy nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywyd.

Mae’n cynnwys y tair blynedd gyntaf, pan fo plant fwyaf sensitif i’w hamgylchedd corfforol a chymdeithasol.

Mae rhaglen y Mil Diwrnod Cyntaf yn ein hatgoffa bod “y cyfnod yn ystod beichiogrwydd hyd at ail ben-blwydd y plentyn yn cynnig y potensial mwyaf ar gyfer gwella canlyniadau a lleihau anghydraddoldebau.”

Mae cymorth yn y Blynyddoedd Cynnar yn gwneud gwahaniaeth i blant fel unigolion, ac drwyddynt hwy, yn gwneud gwahaniaeth i iechyd Cymru yn y dyfodol. Mae profiadau cynnar bywyd yn cael effaith barhaol, gan ddylanwadu ar iechyd a lles drwy gydol plentyndod ac ymhell i mewn i fywyd oedolyn.

Ymarfer wedi’i seilio ar bolisi a rhaglenni

Mae polisi Llywodraeth Cymru yn pwysleisio diogelu a hyrwyddo iechyd babanod a phlant ifanc, drwy bolisïau megis:

Darperir gwasanaethau gan fydwragedd, meddygon teulu, nyrsys, ymwelwyr iechyd, gweithwyr gofal plant a meithrin, athrawon a deintyddion.

Gall teuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol gael mynediad at weithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth teuluol, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith, pediatregwyr, staff mewn Canolfannau Teuluol a Chanolfannau Plant, gweithwyr tai a llawer, llawer mwy.

Yn fyr: mae darparu cymorth blynyddoedd cynnar da yn waith tîm, ac mae’r tîm yn un mawr iawn.

Mae angen i ni helpu gweithwyr proffesiynol yn yr holl grwpiau hyn i ddarparu’r gwasanaethau gorau i deuluoedd. Dylai’r cymorth hwnnw ddechrau cyn geni’r baban, gan barhau trwy’r blynyddoedd cynnar a chefnogi pontio i’r ysgol.

Cymorth sy’n canolbwyntio ar y teuluoedd sydd ei angen fwyaf

Mae bywyd gyda phlant ifanc yn brysur ac mae angen ychydig o gymorth ychwanegol ar deuluoedd â phlant ifanc yn aml. Mae rhai yn cael cymorth gan berthnasau a ffrindiau, ond nid oes gan bob teulu rwydwaith cymorth cryf.

Rydyn ni’n awyddus i ganolbwyntio ein sylw ar y teuluoedd hynny sydd angen cymorth ond yn ei chael hi’n anodd dod o hyd iddo drwy gysylltiadau cymdeithasol a theuluol, a/neu sy’n wynebu heriau diwylliannol neu ieithyddol.

Er mwyn helpu’r plant, mae angen i ni yn aml helpu’r oedolion sy’n gofalu amdanynt, a sicrhau bod ganddynt fynediad hawdd at y cymorth cywir ar yr adeg iawn.

Efallai y bydd angen cymorth arbenigol pellach ar rai teuluoedd os oes ganddynt blant ag anghenion dysgu sy’n datblygu neu’n ychwanegol.

Sut cafodd y strategaeth hon ei llunio

Mae’r strategaeth hon yn ganlyniad cydweithrediad rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’n partneriaid yn y trydydd sector.

Fe’i rheolir gan y grŵp llywio rhanbarthol sy’n cynnwys aelodau o bob sefydliad.

Cafodd y gwaith ei arwain gan awydd llywodraeth Cymru i gael gwasanaethau cyhoeddus integredig gwell, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rydyn ni’n parhau i ymgynghori â rhieni a gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar ar draws y rhanbarth, er mwyn deall eu hamgylchiadau, eu pryderon a’u hanghenion yn well.

Nid yw’r strategaeth hon yn ateb i bopeth, ac nid oes gennym reolaeth dros bopeth sydd angen digwydd. Ond dyma’r cyfeiriad y mae angen i ni anelu ato, ac rydych chi’n cael eich gwahodd i gymryd rhan a’n helpu i wneud cynnydd.

Skip to content