cynnydd a chanlyniadau
Rydyn ni’n gwneud cynnydd da
Rydyn ni wedi bod yn rhoi’r strategaeth ar waith ac yn dechrau gweld canlyniadau ym mhob cam.
Rydyn ni’n gwneud cynnydd da
- Mae cymorth newydd i ddarpar rieni bellach ar gael ledled y rhanbarth, gan ddefnyddio cyngor arbenigol gan ymwelwyr iechyd a bydwragedd. Mae hyn yn cynnwys cymorth iechyd meddwl yn ystod y cyfnod yn union cyn ac ar ôl beichiogrwydd yng Ngheredigion
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyflwyno ymagweddau mwy cefnogol at fwydo babanod, mewn cydweithrediad â Dechrau’n Deg a thimau ymwelwyr iechyd
- Mae 97.5% o fabanod newydd-anedig yng Ngorllewin Cymru bellach yn cael ymweliad cartref gan ymwelydd iechyd – uwch na’r ffigur o 92% yng Nghymru gyfan
Cynnydd yn y Blynyddoedd Cynnar
- Gall teuluoedd â phlant ifanc ledled y rhanbarth bellach gael mynediad at gymorth cydlynol gwell
- Mae 87% o blant yn cael prawf iechyd yn 3 blwydd a hanner, sef cynnydd o’r ffigwr o 51% yn 2021
Cynnydd o ran pontio i addysg Blynyddoedd Cynnar
- Yn Sir Benfro, mae Cyfarfodydd Pontio Clwstwr yn dod ag arweinwyr cyn-ysgol, gweithwyr allweddol ac athrawon ysgol ynghyd i rannu gwybodaeth, gyda’r nod o sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl yn yr ysgol
- Hefyd, mae ymwelwyr iechyd yn mynd i leoliadau gofal plant ymlaen llaw i rannu gwybodaeth am ddatblygiad, llesiant a chyd-destun teuluol.
- Mae tîm Sir Gaerfyrddin wedi creu rôl newydd sy’n canolbwyntio ar baratoi ysgolion i groesawu plant ifanc, ac mae wedi bod yn cynnal hyfforddiant ar gyfer staff ysgolion ac iechyd
Rydyn ni’n integreiddio gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar
- Mae Grŵp Llywio Rhanbarthol Mamolaeth a’r Blynyddoedd Cynnar yn dod â’r bobl allweddol ar draws y rhanbarth ynghyd i sicrhau bod gyda ni gynllun a rennir ar gyfer gwella iechyd a llesiant babanod a phlant ifanc. Mae’r grŵp hefyd yn sicrhau nad yw’r plant ieuengaf yn cael eu hanwybyddu mewn cynllunio rhanbarthol ehangach
- Ar draws y rhanbarth rydyn ni wedi bod yn profi ffyrdd newydd i wasanaethau weithio gyda’i gilydd i gefnogi teuluoedd.
- Yn Sir Gaerfyrddin, treialwyd tîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar yng Nghwm Gwendraeth ac, yn dilyn ei lwyddiant pendant, mae bellach wedi’i sefydlu’n llawn. Bydd yn ehangu i gwmpasu Dyffryn Aman, gan ychwanegu rolau Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd a rôl Paratoi ar gyfer Rhianta.
- Yn Sir Benfro, mae sesiynau cyn-geni Bump Start wedi’u cyflwyno ledled y sir, gan ddarparu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar deuluoedd yn ystod beichiogrwydd.
- Yng Ngheredigion, mae rolau newydd wedi’u hariannu i sicrhau bod teuluoedd yn cael cynnig cymorth blynyddoedd cynnar sy’n gyson ble bynnag y maen nhw’n byw yn y sir
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cynnal cynllun peilot bwydo babanod lle roedd bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn gweithio ochr yn ochr. Mae hyn yn golygu y gall rhieni ledled y rhanbarth bellach gael cyngor dibynadwy, sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ystod y cyfnod beichiogrwydd ac wedi hynny, yn ogystal â chysylltiadau â’r trydydd sector. Mae cyllid ychwanegol hefyd wedi caniatáu i’r tîm bwydo babanod ehangu, fel y gall mwy o deuluoedd gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw
Mae mwy o gydweithio rhwng y trydydd sector, yr Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd
– Gweithiwr prosiect, Plant Dewi
Mae cael perthynas â gwasanaethau eraill yn ei gwneud hi'n haws helpu rhieni
– Swyddog gwybodaeth i deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin
Rydyn ni'n gallu gweithio'n llawer mwy cyfannol a hyblyg o amgylch anghenion a chryfderau pob teulu
– Rheolwr tîm yng Ngheredigion
Rydyn ni’n canolbwyntio ar unigolion wrth ddylunio gwasanaeth
Rydyn ni wedi bod yn gwrando’n ofalus ar rieni a staff y blynyddoedd cynnar i helpu i lunio gwasanaethau newydd a gweld lle mae angen gwella. Mae eu hadborth yn nodi beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio. Mae rhieni’n dweud bod pobl yn gwrando arnyn nhw ac yn eu deall – sy’n arwydd da ein bod ar y trywydd iawn.
Rydyn ni’n datblygu ein gweithlu
- Rydyn ni wedi bod yn cynnig mwy o hyfforddiant i staff y Blynyddoedd Cynnar ledled y rhanbarth, gan helpu timau i weithio’n agosach gyda’i gilydd a rhannu gwybodaeth ar draws gwasanaethau
- Mae staff o ganolfannau teuluoedd a gwasanaethau iechyd yng Ngheredigion a Sir Benfro wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant tylino babanod
- Yn Sir Gaerfyrddin, mae staff iechyd ac addysg wedi mynychu sesiynau hyfforddi ar y cyd ynghylch cefnogi plant drwy’r cyfnod pontio i’r ysgol
- Mae Hywel Dda yn cynnal hyfforddiant rheolaidd ar ystod o bynciau iechyd ar gyfer staff y Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys gweminarau a digwyddiad diwrnod llawn blynyddol. Mae pynciau yn cael eu llywio gan adborth gan weithlu’r blynyddoedd cynnar ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau lleol
- Mae hyfforddiant bellach yn agored i bawb sy’n gweithio yn y
blynyddoedd cynnar, gan gynnwys partneriaid yn y trydydd sector, gan helpu i feithrin cysylltiadau cryfach rhwng timau.
Rydw i wedi gwella fy ngwybodaeth am wasanaethau drwy fynychu digwyddiadau wedi'u cynllunio ar y cyd, gan gynnwys digwyddiadau mamolaeth yng Nglangwili
– Rheolwr cymorth i deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin
Mae ein gwasanaethau wedi dod yn fwy cydweithredol, cydgysylltiedig ac yn canolbwyntio ar y teulu, gydag arferion cliriach a gwell defnydd o adborth
– Cydlynydd Blynyddoedd Cynnar yn Sir Benfro
Rydyn ni’n gwella mynediad at wybodaeth
- Ar draws y rhanbarth, mae timau wedi dechrau recriwtio Hyrwyddwyr Cyfeirio i helpu teuluoedd i gael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw
- Yng Ngheredigion, mae’r tîm wedi adnewyddu ei dudalennau gwe – Cymorth i Deuluoedd a Rhianta – i sicrhau eu bod yn haws eu defnyddio, ac mae bellach yn hyrwyddo cyrsiau ac mae modd eu gweld ar Facebook, Instagram a TikTok
- Mae tîm Sir Gaerfyrddin wedi datblygu tudalen mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar bwrpasol ar wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, wedi’i chyd-gynhyrchu gyda rhieni. Bydd pob rhiant yn derbyn côd QR – yn eu hapwyntiadau bydwraig ac ymweliadau iechyd ac wrth gofrestru’r enedigaeth – sy’n eu cyfeirio i’r dudalen hon
Rydym yn olrhain ein cynnydd tuag at ganlyniadau
I sicrhau bod ein gwasanaethau yn gwneud gwahaniaeth, rydyn ni’n olrhain ein cynnydd gan ddefnyddio dangosyddion a ddewiswyd o Fframwaith Canlyniadau Blynyddoedd Cynnar a Fframwaith Gweithredu ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru.
Mae ein strategaeth yn gosod y cyfeiriad ar gyfer cyflawni’r canlyniadau hyn a bydd yn cael ei hadolygu wrth i ddata gael ei ddiweddaru. Mae arnom angen cefnogaeth pawb sy’n rhan o hyn. Cysylltwch â ni i godi eich cwestiynau a chynnig eich syniadau am sut i wneud hyn yn realiti.
